Ymchwilio i ymosodiadau gan glaf yn Ysbyty Singleton
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal yn dilyn honiadau bod dau glaf mewn ysbyty yn Abertawe wedi dioddef ymosodiadau gan ddyn oedd hefyd yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Mae'r ymchwiliad yn cael ei gynnal gan swyddogion iechyd, Heddlu De Cymru a gwasanaethau cymdeithasol yn dilyn y digwyddiad yn Ysbyty Singleton dros y penwythnos.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg fod claf wedi gadael un o'i wardiau un noson yr wythnos diwethaf.
Mae papur y South Wales Evening Post yn adrodd fod y bwrdd iechyd wedi derbyn cwyn.
'Camau priodol'
Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd fod camau priodol wedi eu dilyn ac roedd "claf wedi ei ddychwelyd yn ddiogel i'r ward".
Fe wnaeth y bwrdd iechyd gadarnhau fod "digwyddiad" wedi bod ar un o'r wardiau.
"Fel cam rhagofalus fe aseswyd cleifion gerllaw ac mae cymorth ar gael i unrhyw un sydd wedi ei effeithio," meddai'r llefarydd.
"Cafodd teuluoedd cleifion wybod am y digwyddiad ac mae Cyfarwyddwr Nyrsio'r Ysbyty ar gael i gyfarfod unrhyw rai o'r teuluoedd sydd hefo pryderon."
Mae Ysbyty Singleton yn ysbyty cyffredinol gyda 310 o welyau.