Gall UKIP ennill hyd at naw sedd yn etholiadau'r Cynulliad
- Cyhoeddwyd

Gallai UKIP ennill hyd at naw sedd yn etholiad Cynulliad 2016, yn ôl dadansoddiad arbenigol o arolwg barn newydd.
Yn y pleidleisiau etholaethol, mae'r arolwg gan ITV a Chanolfan Llywodraethiant Cymru, yn rhoi Llafur ar y blaen gyda 35% (-4), y Ceidwadwyr gyda 23% (dim newid), Plaid Cymru 20% (+2), UKIP 15% (+2) a'r Democratiaid Rhyddfrydol 5% (-1).
Mae'r dadansoddiad yn awgrymu y byddai gan Llafur dair sedd yn llai na'r 30 sydd ganddynt ar hyn o bryd.
Fe fyddai gan y Ceidwadwyr 12 sedd (-2), Plaid Cymru 10 sedd (-2), UKIP naw, a'r Dem Rhydd gyda dwy sedd (-3).
Mae'r dadansoddiad, gan yr Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, yn cymryd i ystyriaeth y rhestr pleidleisio ranbarthol ar gyfer y 20 o'r 60 AC etholedig gan ddefnyddio math o gynrychiolaeth gyfrannol.
Mae'r arolwg yn rhoi Llafur ar 34%, Ceidwadwyr 23%, Plaid Cymru 18%, UKIP 16% a'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r Gwyrddion gyda 4%.
Petai'r blaid Lafur yn ennill 27 o seddi ym Mae Caerdydd, byddai'n wynebu'r dewis o lywodraethu fel llywodraeth leiafrif, neu ddod i gytundeb gydag un o'r pleidiau eraill.
Mae'n ymddangos nad yw ethol Jeremy Corbyn fel arweinydd y blaid Lafur yn yr haf wedi cael effaith syfrdanol ar ffigyrau'r arolwg.
Dywedodd yr Athro Scully : "Mae Llafur yn parhau i fod dipyn ar y blaen i'r pleidiau erai
"Ond rydym wedi gweld eu cefnogaeth ar gyfer yr etholiad yn llithro, yn enwedig ers mis Medi.
"Fodd bynnag, y prif beth rydym wedi ei ddysgu o'r canfyddiadau hyn, yw bod rhagolygon yn dangos y gall UKIP ennill naw sedd ar y rhestr ranbarthol ar hyn o bryd: dau ym mhob rhanbarth o Gymru ac eithrio Gorllewin De Cymru.
"Mae'n rhaid i ni gofio y gall y niferoedd yma newid rhwng rŵan a mis Mai, gyda dim ond newidiadau bychan yn newisiadau'r cyhoedd, fe ellir rhagweld UKIP yn ennill nifer yn llai o seddi."