Betsi Cadwaladr: 'Dim cynllun mamolaeth hirdymor'

  • Cyhoeddwyd
New born baby, Betsi Cadwaladr sign, sign for Ysbyty Gwynedd, and outside A&E at Glan Clwyd Hospital

Mae prif weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud nad oes yna gynllun hirdymor ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yn y gogledd.

Yn ôl y prif weithredwr Simon Dean, mae'r Bwrdd wedi llwyddo i recriwtio digon o feddygon i barhau a'r gwasanaeth presennol am y tro.

Ond, wrth gael ei gyfweld ar raglen Good Morning Wales y BBC, rhybuddiodd nad oedd hynny o reidrwydd yn ateb oedd yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

Ychwanegodd fod y bwrdd iechyd wedi llwyddo i recriwtio saith ymgynghorydd a 27 o fydwragedd i lenwi bylchau yn y rota.

Tra bod y penodiadau wedi dod a sefydlogrwydd, meddai Mr Dean, byddai'n rhaid trafod y mater eto yn y dyfodol.

Yn y gorffennol, roedd y bwrdd wedi son am israddio'r uned famolaeth yn Glan Clwyd, gan olygu y byddai bydwragedd yn gyfrifol am reoli'r uned.

Yna, byddai unedau mamolaeth dan arweiniad ymgynghorwyr wedi bod ar gael yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ac Ysbyty Maelor Wrecsam.

Ond, yn dilyn nifer o brotestiadau a her gyfreithiol fe benderfynodd y bwrdd roi'r gorau i'r cynllun, ac ailddechrau proses o ymgynghori ynglŷn â dyfodol gwasanaethau mamolaeth yn yr ardal.