Taulupe Faletau yn ymuno â Chaerfaddon ar ddiwedd y tymor
- Cyhoeddwyd

Bydd chwaraewr rheng-ôl Cymru, Taulupe Faletau yn ymuno â Chaerfaddon y tymor nesaf.
Bydd Faletau yn gadael y Dreigiau ar ddiwedd y tymor.
Mae Faletau wedi chwarae 52 o weithiau i Gymru, ac roedd yn rhan o'r tîm wnaeth gyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd eleni.
Bydd Faletau yn ymuno a'r Cymro Luke Charteris, fydd hefyd yn symud i Gaerfaddon o Racing 92 y tymor nesaf.
Wrth siarad gyda gwefan clwb Caerfaddon, dywedodd Faletau: "Mae'r ffordd mae Caerfaddon yn chwarae yn gweddu fy ffordd o chwarae, oedd yn ffactor wnaeth wneud i mi eisiau ymuno.
"Roedd y cyfle i weithio hefo Darren [hyfforddwr Caerfaddon Darren Edwards] eto ar ôl cael gwneud i Gymru dan-20 a'r Dreigiau hefyd yn gyfle doeddwn i methu ei wrthod.
"Hoffwn ddiolch i'r Dreigiau am bopeth y maen nhw wedi ei wneud i fi yn fy ngyrfa."