Y fyddin ag 'agwedd ddiofal' at ddiogelwch

  • Cyhoeddwyd
Milwyr

Mae gan y fyddin "agwedd ddiofal" at ddiogelwch, yn ôl cyfreithiwr yn achos milwyr fu farw ar hyfforddiant gyda'r SAS ym Mannau Brycheiniog.

Bu farw'r Is-gorporal Craig Roberts, o Fae Penrhyn, ger mynydd Pen-y-Fan. Bu farw dau filwr arall, yr Is-gorporal Edward Maher a'r Corporal James Dunsby, yn yr ysbyty yn ddiweddarach, yn dilyn taith 16 milltir gyda'r fyddin yn 2013.

Dywedodd Hilary Meredith wrth wrandawiad gan Aelodau Seneddol ynglŷn â hyfforddiant y Weinyddiaeth Amddiffyn bod "agwedd ddiofal" at ddiogelwch a marwolaethau.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud bod gwelliannau wedi eu cyflwyno ac y gallai mwy ddilyn.

Methiannau systemig?

Mae ASau yn ystyried os yw'r 125 o farwolaethau milwrol dros y 15 mlynedd diwethaf yn "awgrymu bod methiannau systemig ym mholisiau a dulliau'r Weinyddiaeth Amddiffyn a'r lluoedd arfog".

Wrth roi tystiolaeth, dywedodd Ms Meredith bod "diwylliant hen ffasiwn" yn y fyddin, a teimlad bod milwyr wedi ymuno gyda'r fyddin a'u bod felly'n derbyn y risg.

"Dwi'n meddwl bod hynny'n dderbyniol ar faes y gad, ond mewn hyfforddiant, nid yw hynny'n dderbyniol.

"Lle mae diffyg ystyriaeth llwyr am fywyd, ni ddylai'r Weinyddiaeth Amddiffyn fod yn wahanol i unrhyw sefydliad arall ac fe ddylen nhw ddod o dan y ddeddf Dynladdiad Corfforaethol."

'Brawychus'

Dywedodd Ms Meredith bod achos y milwyr fu farw ar Fannau Brycheiniog yn "frawychus".

Ychwanegodd bod "angen i'r diwylliant newid, ac mae angen record diogelwch gwell wrth hyfforddi".

Dywedodd cyfreithiwr arall, Philippa Tuckman, wrth y gwrandawiad bod trench foot, cyflwr sy'n digwydd os yw traed rhywun mewn amodau gwlyb ac oer am gyfnod hir, dal yn digwydd yn eithaf aml, er ei fod yn hawdd ei osgoi.

Dywedodd y gallai amodau oer ar y Bannau olygu bod diofalwch bychan arwain at anaf "all ddod a'ch gyrfa i ben".

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud mai'r nod yw sicrhau bod ymchwiliad llawn i bob marwolaeth, a bod gwersi yn cael eu dysgu.