'Arian ar goll': Gwahardd pennaeth ysgol yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gynradd GwenfroFfynhonnell y llun, Google

Mae pennaeth ysgol yng ngogledd Cymru wedi ei wahardd o'i waith yn dilyn honiadau bod arian wedi mynd ar goll o'i ysgol.

Cafodd Nicholas Hankin, pennaeth Ysgol Gynradd Gwenfro ym Mharc Caia, Wrecsam, ei wahardd o'i swydd yr wythnos ddiwethaf.

Mae archwilwyr wedi eu galw i'r ysgol i astudio cyfrifon yr ysgol.

Dywedodd cyfreithiwr Mr Hankin, Tudor Williams, bod ei gleient wedi bod yn dysgu ers 20 mlynedd a bod ganddo "record lan".

Honnodd bod Mr Hankin yn cael "bai ar gam".

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "rydym yn ymchwilio i adroddiad gan yr ysgol ar 23 Tachwedd sy'n dweud fod arian wedi'i ddwyn. Does neb wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r mater."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd nad oedd modd i Gyngor Wrecsam wneud sylw.

Cafodd Mr Hankin, sy'n dod o Landrillo-yn-Rhos, ei benodi yn bennaeth Ysgol Gynradd Gwenfro'n gynharach eleni wedi cyfnod fel pennaeth yn Ysgol Gynradd Tanyfron.