Capel yng Nghaernarfon yn agor ar ei newydd wedd

  • Cyhoeddwyd
caersalem
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r capel wedi gweld cynnydd yn nifer o bobl sy'n mynychu'r gwasanaethau

Mae capel yng Nghaernarfon yn ailagor ar ei newydd wedd gyda help gwirfoddolwyr o America ar ôl cynnydd yn nifer y bobl sy'n mynychu'r gwasanaethau.

Yn dilyn gwaith adnewyddu mawr i Gapel Caersalem ar Stryd Garnon mae'r adeilad yn cael ei ailagor wrth iddo ddathlu dauganmlwyddiant ers ei sefydlu yn 1815.

Dros 10 mlynedd yn ôl roedd to'r capel yn gwegian, felly bu'n rhaid i aelodau'r capel ddechrau addoli yn y festri o dan y capel lle mae pob cyfarfod wedi ei gynnal ers hynny.

Disgrifiad o’r llun,
Rhai o aelodau Caersalem yn helpu gyda'r gwaith

Dywedodd y Parch. Rhys Llwyd, gweinidog Caersalem: "Ar y pryd, gallai hynny fod wedi edrych fel dechrau'r diwedd, ond yn annisgwyl bu symud i'r festri yn fodd i ddod â phobl yn nes at ei gilydd a rhyddhau'r eglwys i feddwl yn greadigol dros y blynyddoedd.

"Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n mynychu'r capel felly roedd y festri'n llenwi ac roeddem yn rhagweld y byddai'n rhaid i ni symud yn ôl i'r capel rhywbryd."

Gyda chymorth pensaer lleol fe aeth aelodau'r eglwys ati i ailgynllunio'r adeilad ar gyfer defnydd modern ac er mwyn i'r gymuned ei ddefnyddio hefyd.

Mae'r gwaith o ailgynllunio wedi cymryd dwy flynedd, gyda gwirfoddolwyr sy'n aelodau o'r eglwys, a hefyd gwirfoddolwyr o'r Unol Daleithiau yn helpu.

Disgrifiad o’r llun,
Y Parch. Rhys Llwyd yn y pydew bedyddio

Ychwanegodd Y Parch. Llwyd: "Mae'r ymroddiad a ddangoswyd gan ein haelodau a'n brodyr a chwiorydd o eglwysi eraill wedi bod yn rhyfeddol, ac rydym hefyd yn ddyledus i'n pensaer ac i grefftwyr lleol eraill sydd wedi mynd yr ail filltir i wneud hyn yn bosib.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i CADW a Chyngor Gwynedd am ganiatáu'r cynllun ac i Undeb Bedyddwyr Cymru am fenthyciad ariannol, am eu cydweithrediad a'u gweledigaeth i'n gadael i ddod â bywyd yn ôl i'r hen adeilad yma fel bod ei threftadaeth yn cael ei werthfawrogi o'r newydd."

Dywedodd y bydd gwasanaethau ar y Sul yn cael eu harwain gan fand llawn, sy'n cynnwys gitâr, drymiau ac amcan y pregethau yw bod yn berthnasol i fywyd pob dydd.

Yn ôl Y Parch. Llwyd, mae'r clwb ieuenctid ar nos Fercher yn tyfu ac yn ddiweddar bu'n rhaid gwahanu'r grŵp yn ddau yn ôl oedrannau oherwydd bod y niferoedd wedi cynyddu cymaint.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd y gwasanaethau wedi mynd yn rhy fawr i'r festri

"Mae'n fraint fawr i arwain yr eglwys hon. Y dyddiau yma clywn am niferoedd mewn capeli yn gostwng, ond mae gennym stori wahanol yma.

"Mae pawb mor frwdfrydig, mae'n dangos beth sy'n bosib pan fentrwn mewn ffydd. Mae drws agored yma bob amser ac rwy'n gobeithio bydd ailagor y drysau yma yn helpu ni fel eglwys i wasanaethu'r gymuned yn well."

Bydd agoriad swyddogol gan Faer y Dref ar ddydd Sadwrn 12 Rhagfyr.

Disgrifiad o’r llun,
Caersalem cyn i'r gwaith o drawsnewid y capel ddechrau