Cyffuriau 'cyfreithlon': Mwy o alwadau 999
- Cyhoeddwyd

Mae nifer y galwadau 999 oherwydd defnydd o gyffuriau 'cyfreithlon' wedi codi mwy na 700%, yn ôl ffigyrau gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
Fe dderbyniodd y gwasanaeth 222 o alwadau rhwng Medi 2014 a Medi 2015, o'i gymharu â 31 ddwy flynedd ynghynt.
Dydy sylweddau seico-weithredol newydd neu "legal highs" ddim yn anghyfreithlon ar hyn o bryd, ond mae llywodraeth y DU eisiau rhoi gwaharddiad ar gynhyrchu, dosbarthu, gwerthu a chyflenwi'r sylweddau.
"Mae'n bryder," yn ôl Chris Moore o Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
"Mae'n haws cael y cyffuriau hyn nag erioed o'r blaen, ac mae'n debygol bod ein ffigyrau'n adlewyrchu hynny."
Dywedodd Mr Moore mai canran fach iawn o alwadau - llai na 0.25% o'r cyfanswm - oedd yn ymwneud â'r sylweddau.
Ond fe rybuddiodd fod y cynnydd yn gallu effeithio ar wasanaethau.
"Fe allwch chi ddadlau fod y galwadau hyn, yn gyffredinol, yn dod yn y nos pan ydyn ni'n brysur, felly efallai ei fod yn cael mwy o effaith na galwadau eraill achos gorddosio," meddai.
"Mae'r galwadau'n gallu bod yn fwy heriol achos dydyn ni ddim yn gwybod ym mha gyflwr fydd y claf."