Cinio 'Dolig a chacen ben-blwydd
- Cyhoeddwyd
Beth sydd gan Syr Isaac Newton, Annie Lennox, Syr O M Edwards a Iesu Grist yn gyffredin?
Cafodd pob un eu geni ar 25 Rhagfyr.
Ydy hi'n fendith neu'n felltith i ddathlu pen-blwydd ar ddydd Nadolig? Dyma brofiadau rhai sydd ond yn rhy gyfarwydd â gorfod dathlu eu diwrnod arbennig ar ddiwrnod sy'n arbennig i bawb arall hefyd!
Stori'r fam (Siân Jones)
Rwy'n cofio deffro tua 6 fore dydd Nadolig 1987 a sylweddoli fod y babi ar y ffordd ddau ddiwrnod yn gynnar. Mewn â fi i'r bath ar ôl deffro Sioned oedd yn 7 oed a Carys yn 4 oed er mwyn i fi gael eu gweld yn agor anrhegion Siôn Corn cyn i fi fynd mewn i'r ysbyty.
Yn ffodus roedd Mamgu'n aros gyda ni dros y Nadolig a fe adawon ni hi i ofalu am y merched a'r twrci!!
Trwy lwc roeddwn i wedi paratoi'r llysiau y diwrnod cynt. Cyrraedd yr ysbyty erbyn 6:45 a Lisa fach yn cyrraedd erbyn 7 yn pwyso 9 pwys 3 owns. Hi oedd y babi cyntaf i gael ei eni yn Ysbyty Dwyrain Morgannwg y Nadolig hwnnw ac fe gafodd VIP treatment a'i rhoi mewn crud crand iawn!
Aeth Pens, fy ngŵr adre tua 8 a dod nôl am 10 gyda Sioned, Carys a Mamgu i weld y babi bach newydd. Erbyn hynny ro'n i wedi gwisgo'n barod i ddod adre!
Felly fues i'n lwcus iawn i gael mynd adre mewn da bryd i gael fy nghinio a mwynhau Nadolig bythgofiadwy gyda'r teulu i gyd!
...a'r ferch (Lisa Jones)
Dydd Nadolig, mae'n amlwg, yw uchafbwynt y flwyddyn i fi!
Ar ôl deffro, dwi'n agor fy nghardiau pen-blwydd, wedyn ar ôl brecwast ry'n ni gyd yn agor ein anrhegion Dolig ac ar ôl cinio, mae fy anrhegion pen-blwydd yn ymddangos! (Fi yw'r un sydd fel arfer yn golchi'r llestri'n syth ar ôl cinio, er mwyn gallu agor mwy o anrhegion yn gynt!)
Felly mae'n ddiwrnod prysur iawn o agor lot o anrhegion!
Ma'n rhaid fi ddweud mod i'n ffodus iawn - mae fy nheulu a'n ffrindiau'n hael iawn yn rhoi anrhegion Nadolig a phen-blwydd! Mae'n fis drud iawn iddyn nhw...
Y peth anodda' o gwmpas Nadolig yw i drefnu parti pen-blwydd gan bo' pawb mor brysur gyda'u partïon Nadolig. Ond ma 'na perks hefyd...
Yn ystod yr haf un flwyddyn, ges i feic newydd sbon. Wedodd mam a dad taw anrheg pen-blwydd cynnar oedd e, ond erbyn y Nadolig roedden nhw di anghofio'n llwyr! (Shhh! Paid â dweud wrthyn nhw!)
Eileen Noel Jones
Fel mae ei henw yn ei awgrymu, cafodd Eileen Noel Jones ei geni ddydd Nadolig, yn 1928. Cafodd ei geni ym Mrynrefail, ond mae hi bellach yn byw ym Mryngwran. Pan roedd hi'n blentyn, roedd diwrnod Nadolig a'i phen-blwydd yn un arbennig iawn.
"Roeddwn i'n cael anrheg pen-blwydd gan Mam a Tada, ond wrth gwrs, y dyddiau hynny, doedd ganddon ni ddim llawer o bres, felly doedd yr anrheg ddim yn werthfawr iawn. Ond roedden ni'n cael Nadolig ardderchog bob blwyddyn.
"Dyddiau yma, tydw i ddim yn poeni rhyw lawer. Mae gen i bump o blant, 9 o wyrion a 9 a hanner o or-wyrion (mae'r babi ar y ffordd fis Chwefror!). Felly bydda i'n treulio'r diwrnod mawr adref, ond yn mynd i dŷ'r ferch ddydd San Steffan, ac yn gweld bron pawb bryd hynny.
"Dwi'n cael lot gormod o anrhegion ganddyn nhw - mae'n nhw'n fy sbwylio i, a dwi'n cael amser gwych gyda nhw i gyd!"
Celfyn Williams
Cafodd Celfyn Williams ei eni Ddiwrnod 'Dolig 1950.
"Pan o'n i'n hogyn, roedd y diwrnod fel roedd o i bawb arall - yn brysur iawn iawn, a digon o fwrlwm. Dolig oedd yn prif bwynt wrth gwrs, ond doedd y pen-blwydd ddim yn cael ei anghofio.
"Roedd wastad rhyw draddodiad ganddon ni mod i'n agor fy anrhegion pen-blwydd i gyntaf a wedyn pawb arall yn agor presanta' yn ôl oedran, ar ôl brecwast.
"Yr unig wahaniaeth, ddudwn i, oedd mod i wastad yn meddwl bod gan bob cacen pen-blwydd Siôn Corn ar ei ben o!
"Ers i ni briodi, 'da ni wedi cadw'r un traddodiad. Mae'r wraig a'r plant yn sicrhau mod i'n agor fy mhresanta' pen-blwydd i gyntaf, wedyn brecwast ac i'r capel, ac agor y presanta' 'Dolig wedyn. Y 'Dolig ydy'r peth pwysicaf, wastad - dydy'r pen-blwydd ddim yn cael sylw ar ei ben ei hun. Ond tydi o byth yn cael ei anghofio chwaith!
"Dwi'n cael ambell i anrheg gan ffrindiau sydd i fod ar gyfer pen-blwydd a'r Nadolig - mae'n debyg eu bod nhw 'wedi gwario mwy arno fo'... dwi'm yn siŵr os ydw i'n credu hynny 'de...!
"Dwi erioed wedi teimlo fel taswn i'n colli allan, achos mae o'n fwy o barti nag os faswn i'n cael parti pen-blwydd yn unig - mae pawb yn cael dathlu!"