ACau Llafur yn cefnogi treth bop Plaid Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Aelodau Cynulliad Llafur wedi pleidleisio dros gefnogi galwad Plaid Cymru am dreth ar ddiodydd melys.
Cyn hyn, mae'r Prif Weinidog wedi beirniadu cynlluniau'r blaid i ddefnyddio'r dreth er mwyn talu am feddygon ychwanegol.
Yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog Cyllid, Jane Hut y gallai'r dreth "fod yn un o nifer o fentrau" i fynd i'r afael â gordewdra, ond bod yna "anawsterau ymarferol y mae'n rhaid ymchwilio iddyn nhw."
O 38 pleidlais i 10, pleidleisiodd aelodau dros gefnogi cynnig Plaid Cymru i "gyflwyno'r cynnig i ddefnyddio'r pwerau trethu newydd o dan Ddeddf Cymru 2014 i ganiatáu i Lywodraeth nesaf Cymru i gyflwyno ardoll ar ddiodydd llawn siwgr".
Straeon perthnasol
- 3 Gorffennaf 2014