Cymeradwyo safle gwastraff dadleuol
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Caerffili wedi cymeradwyo cynlluniau dadleuol i godi safle trin gwastraff ar ystâd ddiwydiannol rhwng Cwmfelinfach a Wattsville.
Roedd y cyfarfod yn orlawn, gyda tua 150 o bobl sy'n gwrthwynebu'r cynllun yn bresennol.
Cwmni Hazrem Environmental sydd y tu ôl i'r datblygiad.
Mae rhai pobl sy'n byw yn lleol yn gwrthwynebu'r datblygiad ar y sail y gallai effeithio ar y tywydd a'r hinsawdd yn y cwm, ond mae'r cwmni'n mynnu na fyddai fawr o wahaniaeth.
Fe gymeradwyodd y Pwyllgor Cynllunio'r datblygiad er nad oedd yn benderfyniad unfrydol.