Angladd un o weithwyr dur Celsa
- Cyhoeddwyd
Bu farw Mark Sim a Peter O'Brien yn y ffrwydrad fis diwethaf
Fe fydd angladd un o'r ddau weithiwr fu farw yn y ffrwydrad yng ngwaith dur Celsa yng Nghaerdydd ar 18 Tachwedd yn cael ei gynnal ddydd Iau.
Roedd y peirianydd Peter O'Brien, yn 51 oed ac yn dod o Lanisien.
Bydd angladd Mark Sim o Gilycoed, Sir Fynwy yn cael ei gynnal wythnos nesaf.
Mae Heddlu De Cymru a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau i ymchwilio i achos y ffrwydrad.