Cyhoeddi menter sgiliau busnes newydd

  • Cyhoeddwyd
BusnesauFfynhonnell y llun, PA

Bydd menter sydd werth £3.9m i helpu perchnogion a rheolwyr busnes i fagu sgiliau arwain a rheoli yn cael ei chyhoeddi gan y Gweinidog Cyllid a Busnes, Jane Hutt, ddydd Gwener.

Mae Arweinyddiaeth ION yn cael £2.7m o gymorth drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop i "gynyddu sgiliau ac ysgogi cynhyrchiant a throsiant mewn mentrau bach a chanolig," yn ogystal â sefydliadau mwy.

Nod y rhaglen yw datblygu gyrfaoedd a gwella perfformiad cannoedd o fusnesau yn y gogledd, y gorllewin a chymoedd y de, meddai'r llywodraeth, gan arwain at gynnydd mewn proffidioldeb a thwf.

Dywedodd y gweinidog: "Bydd arfogi arweinwyr a pherchnogion busnes â sgiliau o safon uchel yn arwain at fwy o allu i gynhyrchu, ac yn gwella perfformiad o fewn mentrau preifat er mwyn iddynt fod yn fwy cystadleuol ac ennill contractau newydd, gan arwain at lwyddiant masnachol."

Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn medru arbrofi gyda gwahanol ddulliau o arwain ac yn dysgu sut i ymgorffori arferion gwaith llwyddiannus yn eu busnesau eu hunain.

Mae'r prosiect yn adeiladu ar lwyddiant prosiect LEAD Cymru, oedd o dan arweiniad Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor, wnaeth helpu dros 900 i ennill sgiliau a chymwysterau rhwng 2009 a 2015, meddai'r llywodraeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

'Hybu twf busnes'

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies: "Bydd prosiect Arweinyddiaeth ION yn mynd â'r cysylltiad rhwng Prifysgolion Abertawe a Bangor a busnesau bach a chanolig i lefel newydd. Bydd y brifysgol yn helpu perchnogion a rheolwyr busnesau bach a chanolig, gan ddefnyddio dulliau cadarn a llwyddiannus ar gyfer hybu twf busnesau.

"Mae'r prosiect yn cydnabod bod rhaid i fusnesau bach a chanolig gael arweiniad ac uchelgais ymysg rheolwyr i ddatblygu eu busnesau er mwyn gwella'r economi. Rydyn ni'n manteisio'n frwd ar y cyfle hwn i roi hwb sylweddol a chynaliadwy i economi Cymru."

Ychwanegodd yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: "Mae Prifysgol Bangor yn falch iawn o gydweithio gyda Phrifysgol Abertawe ar y prosiect sy'n gyfle gwych i fusnesau Cymru fuddsoddi yn eu twf.

"Mae economi Cymru'n dibynnu ar dwf busnesau bach a chanolig. Rydyn ni fel prifysgol wedi gweld y manteision ddaeth i fusnesau drwy fuddsoddi yn eu sgiliau arwain a rheoli, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at eu helpu i wynebu'r her."