Gwraig oedrannus yn gwadu troseddau rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed mai "celwydd llwyr" yw honiadau fod gwraig 82 oed wedi cyflawni troseddau rhyw ar ferch yn y 1970au a'r 1980au.
Mae Elizabeth Mulcahy o Landaf yng Nghaerdydd yn dweud mai ffug yw'r honiadau.
Mae'n gwadu chwech chyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferch o dan 13 oed.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y wraig - pan glywodd am yr honiadau - wedi dweud wrth yr heddlu: "Mae'n gelwydd llwyr - dwi erioed wedi cyffwrdd ynddi."
Mae Ms Mulcahy yn cael ei chyhuddo o gyffwrdd yn anaddas yn y ferch, ac i hynny ddechrau pan oedd y ferch yn 10 oed a pharhau tan ei bod yn 13 oed.
Mewn cyfweliad, dywedodd: "I mi fod wedi cyffwrdd ynddi fel yna, dwi erioed wedi clywed rhywbeth mor ofnadwy yn fy mywyd."
Mae'r achos yn parhau.