BBC Cymru Fyw

Lluniau'r Flwyddyn 2015

Published

Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur i ffotograffwyr Cymru Fyw. Dyma i chi stori'r flwyddyn mewn lluniau.

image caption"Rwyt Ionawr yn oer a'th farrug yn wyn". Roedd Llanbrynmair ymhlith yr ardaloedd gafodd ddos go drwm o eira ddechrau'r flwyddyn
image captionRoedd y tywydd yn brafiach ym mis Chwefror fel mae'r llun hwn o'r drudwyod yn dychwelyd i noswylio ar bier Aberystwyth yn ei awgrymu
image captionGwenu dros Gymru: Gŵyl Ddewi yng Nghaernarfon ddechrau Mawrth
image captionYr haul yn machlud ar Lyn Padarn yn Eryri fis Ebrill
image copyrightJenna Loves Photography
image captionCarped o glychau'r gog yng Ngwarchodfa Natur Dinas Gwenffrwd yn Rhandirmwyn, Powys ym mis Mai
image captionPendinas yw enw'r cwch sy'n hwylio i gyfeiriad... Pendinas, ger Aberystwyth ym mis Mehefin
image captionGwyliau'r haf a'r plant yn mwynhau chwilio am grancod ym Marina Conwy?
image captionRoedd y trên yn atyniad prysur yn Gala Stêm, Llanuwchllyn
image captionCerddwr unig ar ben y bryn ym mharc Grangemoor, Caerdydd ym mis Medi
image captionBlodyn unig yn brwydro yn erbyn effeithiau'r hydref
image captionCae o lysiau ar Benrhyn Gŵyr
image copyrightRichard Outram
image captionAfon Idwal, Dyffryn Ogwen yn oriau mân y bore yn rhoi syniad clir i ni pam bod Parc Cenedlaethol Eryri wedi ennill statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Rhyngwladol ym mis Rhagfyr