BBC Cymru Fyw

Pyncs Cymru a'r Sex Pistols

Published
image captionThe Sex Pistols, y band ynghanol chwyldro cerddorol y 70au

Mae amryw yn cyfrif 14 Rhagfyr 1976 fel dyddiad roddodd ysgytwad i gerddoriaeth yng Nghymru.

Roedd 'na brotestio ffyrnig yng Nghaerffili i groesawu grŵp pync The Sex Pistols a oedd wedi eu gwahodd i berfformio yn sinema'r Castle yn y dref.

Cyn hyn roedd John Lydon, Paul Cook, Glenn Matlock a Steve Jones wedi perfformio yng Nghymru heb wynebu'r un gwrthwynebiad. Newidiodd popeth ar ôl i'r Pistols regi ar raglen deledu Bill Grundy a oedd yn cael ei darlledu yn fyw amser te ar 1 Rhagfyr.

Er gwaetha'r cyhuddiadau yn eu herbyn, mi lwyddodd The Sex PIstols a'u hagwedd ddi-gyfaddawd i ysbrydoli cenedlaethau o gerddorion ifanc. Dyma i chi rai o'r bandiau Cymraeg gafodd eu dylanwadu gan y diwylliant pync dros y blynyddoedd:

image copyrightBetsan Evans
image captionDatblygu - Dave R Edwards a Pat Morgan
image captionLlwybr Llaethog
image copyrightNici Beech
image captionDewi Emrys a Gruff Rhys o Ffa Coffi Pawb yn y Cŵps, Aberystwyth
image copyrightRhys Mwyn
image captionY Fflaps
image copyrightMedwyn Jones
image captionIan Morris, lleisydd egniol Tynal Tywyll
image copyrightMedwyn Jones
image captionU Thant
image copyrightMedwyn Jones
image captionHuw Huws, canwr Brodyr y Ffîn. Bu farw yn ifanc mewn tân mewn fflat ble roedd yn aros.
image copyrightMedwyn Jones
image captionMark Roberts, canwr y Cyrff
image captionTŷ Gwydr
image copyrightMedwyn Jones
image captionGorky's Zygotic Mynci