Euro 2016: Enwau o'r het

  • Cyhoeddwyd
Wales celebrate at full-timeFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd tîm pêl-droed Cymru'n cael gwybod brynhawn Sadwrn pwy fydd yn eu hwynebu yn Euro 2016.

Bydd yr enwau'n cael eu tynnu o'r het ar gyfer y bencampwriaeth yn Ffrainc mewn seremoni ym Mharis am 17:00.

Ar ôl ymgyrch arwrol yn y rowndiau rhagbrofol, mae'r tîm cenedlaethol yn mynd i un o brif gystadlaethau pêl-droed y byd am y tro cyntaf ers 1958.

Mae 24 gwlad yn y bencampwriaeth, ac mae Cymru'n sicr o wynebu un o dimau cryfaf Ewrop.

Bydd posib dilyn y cyffro wrth i'r enwau ddod o'r het ar lif byw arbennig Cymru Fyw sy'n cychwyn am 16:30.

'Cyfle gwych'

Mae seren Cymru, Gareth Bale, yn meddwl fod gan y garfan "gyfle gwych" i ennill y bencampwriaeth.

"Rwy'n credu'n wirioneddol fod gennyn ni gyfle gwych i ennill os gawn ni ychydig o lwc ac os wnawn ni chwarae'n gêm ni," meddai Bale. "Pam lai?"

Yn siarad ar raglen Sport Wales y BBC, dywedodd ymosodwr Real Madrid: "Dim mynd yno i gymryd rhan ydyn ni. 'Dyn ni'n mynd yno i wneud jobyn iawn a cheisio ennill y bencampwriaeth.

"Does dim pwynt mynd yno i fod yn dîm eilradd."

Ychwanegodd Bale ei fod yn edrych ymlaen at wynebu timau gorau'r byd.

"'Dyn ni eisiau chwarae ar y llwyfan mwyaf a phrofi'n hunain yn erbyn y timau gorau," meddai.

"Bydd rhaid gwneud hynny yn y bencampwriaeth. Mae rhaid bod yn uchelgeisiol. Dyna'r cynllun.

"Rwy'n siŵr na fydd unrhyw wlad arall yn edrych ymlaen at ein hwynebu ni. 'Dyn ni'n gryf, mae gennyn ni ysbryd gwych a lot o gymeriad, a 'dyn ni'n chwarae pêl-droed da hefyd."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Bel-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Cyrhaeddodd Chris Coleman a'r tîm rheoli ym Mharis fore Gwener

Dyma'r holl wybodaeth am bwy all tîm Chris Coleman fod yn herio ym mis Mehefin.

Cofiwch y gallwch ddilyn llif byw arbennig Cymru Fyw wrth i'r enwau ddod o'r het.

24 tîm

Dyma'r tro cyntaf i'r gystadleuaeth gynnwys 24 tîm yn y rowndiau terfynol, ac mae'r timau wedi eu rhannu i bedwar pot.

Fel y tîm cartref, mae Ffrainc ym mhot 1, gyda'r timau gorau yn ôl detholion UEFA.

Mae Cymru ym mhot 4, ac yn sicr o wynebu un o'r timau cryfaf yn y gystadleuaeth.

Bydd y timau yn cael eu tynnu i chwe grŵp gyda phedwar tîm ym mhob un.

Y timau

Pot 1

Yma mae'r enwau mwyaf yn y gystadleuaeth. Mae Ffrainc yma fel y tîm cartref, ond hefyd pencampwyr y byd, Yr Almaen.

Hefyd yma mae Gwlad Belg, tîm wnaeth Cymru guro yn ystod y rowndiau rhagbrofol - rhyw gysur i ddynion Coleman?

  • Ffrainc - (eisoes yng ngrŵp A)
  • Gwlad Belg
  • Lloegr
  • Portiwgal
  • Sbaen
  • Yr Almaen

Pot 2

Yr Eidal yw'r enw mwyaf yn y pot yma, ond mae digon o dimau cryf eraill hefyd, gan gynnwys Awstria a'r Swistir.

  • Awstria
  • Croatia
  • Rwsia
  • Wcraen
  • Y Swistir
  • Yr Eidal

Pot 3

Llwyddodd Hwngari a Sweden i gyrraedd y rowndiau terfynol drwy'r gemau ail-gyfle, ond oherwydd rhestr detholion UEFA, maen nhw ym mhot 3.

  • Gweriniaeth Tsiec
  • Gwlad Pwyl
  • Hwngari
  • Rwmania
  • Slofacia
  • Sweden

Pot 4

Yma mae Cymru ac felly ni fydd y cochion yn wynebu unrhyw un arall o'r pot yma yn rownd y grŵp.

  • Albania
  • Cymru
  • Gogledd Iwerddon
  • Gweriniaeth Iwerddon
  • Gwlad yr Iâ
  • Twrci
Disgrifiad o’r llun,
Bydd tynged Cymru yn nwylo'r dyn yma ddydd Sadwrn, Ruud Gullit

Y timau ym mhot 1 fydd yn cael eu dewis gyntaf, ac yna pot 4 cyn potiau 3 a 2.

Y ddau dîm uchaf ym mhob grŵp, a'r pedwar tîm gorau wnaeth orffen yn drydydd yn y grŵpiau, fydd yn symud ymlaen i rownd yr 16 olaf.

Ddydd Sadwrn, cyn-gapten yr Iseldiroedd, Ruud Gullit a chyn-chwaraewr Ffrainc, Bixente Lizarazu, fydd â'r cyfrifoldeb o ddewis yr enwau.

Fe gewch chi'r dadansoddiad ar Raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru fore Sul, yng nghwmni cyn ymosodwr Cymru, Iwan Roberts ac Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Bêl-droed Cymru.