Corff dyn wedi ei ddarganfod ar ôl 18 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw dyn gafodd ei ddarganfod yn farw yn Y Beddau fis diwethaf, wedi iddo fod ar goll ers 18 mlynedd.
Ddydd Gwener, dywedodd yr heddlu mai corff John Sabine, fyddai wedi bod yn 85 erbyn hyn, oedd wedi ei ddarganfod.
Dywedodd yr heddlu bod gwraig Mr Sabine, Leigh Ann Sabine, fu farw ar Hydref 30, 2015, yn cael ei hamau o ladd ei gŵr.
Cafodd y gweddillion eu darganfod yng ngardd fflatiau Trem-y-Cwm wedi eu cuddio dan blastig.
Y gred yw bod Mr Sabine wedi symud i'r ardal yn 1997, ond mae wedi bod ar goll ers hynny.
'Amodau anarferol'
Yn dilyn post mortem, dywedodd yr heddlu bod gan Mr Sabine anafiadau sy'n cyd-fynd ag ymosodiad.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Gareth Morgan bod yr heddlu yn ymchwilio i'r "amodau anarferol" ac fe wnaeth apel am wybodaeth.
"Hoffwn glywed gan unrhyw un oedd yn adnabod John a Leigh Ann Sabine a fyddai wedi cymdeithasu gyda nhw yn 1996-1997," meddai.
"Rydyn ni hefyd yn apelio i'r gymuned yn ardal Trem-y-Cwm i gysylltu gydag unrhyw wybodaeth am y plastig yr oedd Mr Sabine wedi ei guddio ynddo."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu ar 01656 306099, neu yn ddi-enw ar 0800 555111.