Dal i ddysgu

  • Cyhoeddwyd

Ar 14 Rhagfyr bydd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn lansio archif arlein o luniau, posteri, pamffledi a dogfennau amrywiol i nodi ei ben-blwydd yn 75.

Cafodd yr undeb ei sefydlu yn 1940 gan grŵp o athrawon oedd am ymateb i anghenion penodol athrawon Cymru. Mae UCAC bellach yn cynrychioli 5,000 o bobl ym mhob sector addysg yng Nghymru.

Dyma ddetholiad Cymru Fyw o rai o luniau'r archif:

Ffynhonnell y llun, UCAC

Dau o gloriau Yr Athro - cylchgrawn misol UCAC - ym mis Gorffennaf 1983 a Hydref 1966.

Ffynhonnell y llun, UCAC

Anrhydeddu Emyr Pritchard, ysgrifennydd Sir Arfon/Gwynedd rhwng 1964 ac 1983.

Ffynhonnell y llun, UCAC

O'r chwith i'r dde: Wyn James (trefnydd cenedlaethol), Peter Cross (llywydd), Wyn Thomas (is-lywydd), Tegid Roberts ac Iorwerth Morgan yng Nghynhadledd Flynyddol UCAC yn 1983.

Ffynhonnell y llun, UCAC

Cyfrifiadur cyntaf yn cyrraedd swyddfa UCAC ym Mhen Roc, Aberystwyth, yn 1984. Yn y llun mae Wyn James, y trefnydd cenedlaethol, a Dilys Jones ei ysgrifenyddes.

Ffynhonnell y llun, UCAC

Cyngor Cenedlaethol UCAC yn eu cyfarfod tymhorol yn Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth yn 1984. Yn y rhes flaen mae Wyn James, trefnydd cenedlaethol UCAC rhwng 1981 ac 1999.

Ffynhonnell y llun, UCAC

Cynhadledd Flynyddol UCAC yng Ngholeg y Llyfrgellwyr, Llanbadarn Fawr yn 1988.

Ffynhonnell y llun, UCAC

Emyr Hywel, llywydd UCAC 1990-91, yn siarad gyda'r cyfryngau ar ran yr undeb mewn protest yng Nghaerfyrddin dros gyllid teg i addysg.

Ffynhonnell y llun, UCAC

UCAC yn ennill achos llys yn erbyn y BBC yn 1991 yn dilyn cyhuddiadau gan aelodau o fudiad Education First ar raglen Stondin Sulwyn fod athrawon, a oedd yn aelodau o UCAC, yn gwrthwynebu Saeson.

Ffynhonnell y llun, UCAC

Cynhadledd Addysg Cymru yng Ngwesty'r Marine Aberystwyth yn 1995.

Yn cadw cwmni i'r Trefnydd Cenedlaethol mae tri o lywyddion yr undeb: Emyr Hywel (Llywydd 1990-91), cefn, chwith; Edwyn Williams (Llywydd 1994-5),cefn, dde) a Jenni Jones Annetts (Llywydd 1995-6). Ar ymddeoliad Wyn James yn 1999 cafodd Edwyn Williams ei benodi yn Ysgrifenydd Cyffredinol yr Undeb

Ffynhonnell y llun, UCAC

Cynhadledd Aberystwyth yn 2007. Yr Ysgrifennydd Cyffredinol ar y pryd oedd Gruff Hughes (chwith, blaen)

Ffynhonnell y llun, UCAC

Cynrychiolwyr UCAC yn eu cynhadledd flynyddol yn Llandrindod yn 2015. Mae Elaine Edwards, Yr Ysgrifennydd Cyffredinol presennol yr undeb ar y dde.