Arestio dyn wedi ymosodiad ger parc ym Mangor
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn ymchwilio i ymosodiad ar ddyn 20 mlwydd oed ger parc yng Ngwynedd.
Cafodd anafiadau "difrifol" yn y digwyddiad ar Ffordd Seiriol, Bangor, tua 15:30 ddydd Iau, meddai Heddlu Gogledd Cymru.
Mae dyn lleol, yn ei 20au, wedi cael ei arestio ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101.