Gwynt a glaw yn effeithio ar deithwyr wedi rhybudd melyn
- Cyhoeddwyd

Mae glaw trwm a gwyntoedd cryf wedi effeithio ar deithwyr ddydd Sadwrn, ar ôl i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer y gogledd a'r canolbarth.
Mae rhai ffyrdd a rheilffyrdd dan ddŵr yn siroedd Conwy a Gwynedd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi cyhoeddi pedwar rhybudd am lifogydd ym Mhowys, Conwy a Wrecsam.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai hyd at 6cm o law ddisgyn, ac mae'r glaw wedi achosi trafferth i deithwyr.
Trafferth i deithwyr
Oherwydd llifogydd cafodd rheilffyrdd eu cau rhwng Caergybi a Bangor, Llanrwst a Blaenau Ffestiniog, ac Amwythig a Phwllheli.
Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru bod gwasanaethau bws ar gael yn lle'r trenau, "ond oherwydd y sefyllfa hefo'r ffyrdd, gallwn ni ddim bod yn sicr y bydd gwasanaeth ar gael".
"Felly rydyn ni'n awgrymu na ddylai bobl deithio os nad yw'n hanfodol."
Yn Sir Benfro, cafodd Pont Cleddau ei chau i gerbydau uchel ddydd Sadwrn oherwydd y gwynt.
Yn ogystal â'r glaw trwm, mae'n bosib y bydd eira ar dir uchel hefyd.
Mae'r rhybudd mewn grym o 08:00 tan 20:00 ddydd Sadwrn, ac yn weithredol dros holl siroedd y gogledd, Powys a Cheredigion.
Am y rhybuddion diweddaraf ewch i wefan y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru.