Gwrthdrawiad Porthcawl: Carcharu dyn am yrru'n beryglus
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Borthcawl wedi cael dedfryd o dair blynedd a 10 mis o garchar am daro nifer o bobl y tu allan i glwb nos yn y dref.
Fe blediodd Ryan Ford, 24 oed, yn euog i chwe chyhuddiad o achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod Ford wedi colli rheolaeth wrth yrru Audi A4 lawr Stryd John ym Mhorthcawl yn gynnar fore 25 Hydref pan darodd grŵp o bobol tu allan i glwb nos Streets.
Plediodd yn euog hefyd i yrru heb yswiriant ac i fethu â darparu sampl ar gyfer profion.
Wrth ddedfrydu, fe ddywedodd y Cofiadur Eleri Rees fod rhai o'r bobl gafodd eu wedi cael "anafiadau fydd yn newid eu bywydau."
"Roedd hi'n wyrth fod neb wedi marw," meddai.
'Lladdfa'
Gwelodd y llys fideo CCTV o'r digwyddiad, ble cafodd 21 o bobl eu hanafu - chwech yn ddifrifol.
Dywedodd Gareth Jones ar ran yr erlyniad fod un llygad-dyst wedi disgrifio'r olygfa fel "lladdfa, gyda chyrff ar y llawr a phobl yn rhedeg a sgrechian".
Fe ddywedodd un arall fod "arogl alcohol a golwg feddw" ar Ford.
Clywodd y llys hefyd fod cariad Ford yn y car gydag e. Yn ôl yr erlyniad, tra'r oedd hi yn y cerbyd yn cael eu dilyn gan yr heddlu, fe ffoniodd hi ffrind i ofyn am help, gan ddweud fod Ford "ddim yn meddwl am bobl eraill, dim ond am ei hun".
Fe gafodd Ford ei wahardd o yrru am chwe mlynedd. Bydd yn treulio hanner ei ddefryd yn y carchar, a'r gweddill ar drwydded.