BBC Cymru Fyw

Gleision 37-27 Montpellier

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionCanolwr y Gleision Rey Lee-Lo yn wynebu amddiffyn Montpellier
Daeth y Gleision yn ôl i guro Montpellier ac ennill pwynt bonws yng Nghwpan Her Ewrop.
Fe aeth y tîm o'r brifddinas ar y blaen diolch i gais Rhys Patchell ar ôl 43 eiliad, ond daeth Montpellier yn ôl i reoli'r gêm gyda thri chais mewn 18 munud.
Sgoriodd Josh Navidi a Lloyd Williams geisiadau cyn i Alex Cuthbert dirio i'w rhoi ar y blaen unwaith eto.
Fe sicrhaodd ail gais Navidi'r fuddugoliaeth, ond fe ennillodd y clwb o Ffrainc bwynt bonws diolch i gais hwyr Charles Geli.