Cwpan Pencampwyr Ewrop: Glasgow 43-6 Scarlets
- Cyhoeddwyd

Cafodd y Scarlets gweir gan Glasgow yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop wrth i'r tîm cartref sgorio chwe chais mewn gêm unochrog.
Sgoriodd yr asgellwr Taqele Naiyaravoro dair gwaith, ac roedd ceisiau hefyd i Duncan Weir, James Malcolm a Tim Swinson.
Daeth pwyntiau'r Scarlets gan Steve Shingler, wnaeth lwyddo gyda dwy gic gosb.
Ond doedd yr ymwelwyr methu ymdopi gyda Glasgow, wnaeth fethu a manteisio ar nifer o gyfleoedd eu hunain, ac fe allai'r sgor wedi bod yn llawer uwch.