Cwpan Her Ewrop: Dreigiau 22-0 Pau
- Cyhoeddwyd

Mae'r Dreigiau wedi rhoi hwb i'w gobeithion yng Nghwpan Her Ewrop gyda buddugoliaeth gyfforddus dros Pau.
Rhedodd y mewnwr Sarel Pretorius 80 metr i sgorio cais gyntaf y gêm, ar ôl i Dorian Jones gicio dwy gic gosb.
Daeth dwy gic lwyddiannus arall o droed Jones cyn iddo groesi am gais yn yr ail hanner.
Bydd y timau'n chwarae eto ymhen wythnos, ond bydd y Dreigiau'n pryderu ychydig am yr asgellwr Tom Prydie gafodd anaf yn yr ail hanner.