Manchester City 2-1 Abertawe

Wilfried Bony and David Silva Image copyright Reuters

Sgoriodd Manchester City yn y eiliadau olaf yn yr Etihad i gipio'r pwyntiau yn erbyn Abertawe, ar ôl i Bafetimbi Gomis roi'r Elyrch yn gyfartal munudau ynghynt.

Yn erbyn ei gyn glwb, Wilfried Bony sgoriodd y gôl gyntaf i City, gan benio i mewn i'r rhwyd o gic gornel Jesus Navas wedi 26 munud.

Daeth cyfleoedd i Abertawe, wnaeth ddiswyddo Garry Monk yn yr wythnos, ond doedden nhw methu rhwydo tan y 90ain munud.

Yr eilydd Gomis oedd yn meddwl ei fod wedi cipio pwynt, gan saethu i gornel dde'r rhwyd heibio Joe Hart.

Ond bron yn syth wedyn, rhedodd Yaya Toure i mewn o'r asgell dde, ac fe darodd ei ergyd yn erbyn Kelechi Iheanacho ac i mewn i'r rhwyd a chipio'r pwyntiau i City.