BBC Cymru Fyw

Caerdydd 2-2 Sheffield Wednesday

Published
image copyrightEmpics
image captionSgoriodd Barry Bannan ei gôl gyntaf i Sheffield Wednesday i gipio pwynt
Er i Gaerdydd fod ar y blaen o ddwy gôl ar ôl 45 munud, cyfartal oedd y sgôr ar ddiwedd eu gem yn erbyn Sheffield Wednesday.
Sgoriodd Craig Noone o gic cosb yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl i Tony Watt gael ei daclo gan y golwr, Keiren Westwood.
Anthony Pilkington gafodd yr ail pan aeth o amgylch y golwr a rhwydo ar ôl derbyn pas Joe Ralls.
Ond rhoddodd Fernando Forestieri obaith i'r ymwelwyr cyn i Barry Bannan sgorio ei gol gyntaf i Wednesday i sicrhau pwynt.
Mae Caerdydd yn symud i'r seithfed safle wedi'r canlyniad.