Cymru i wynebu Lloegr yn Euro 2016
- Cyhoeddwyd

Bydd Cymru yn wynebu Lloegr yn Euro 2016 ar ôl i'r enwau gael eu tynnu o'r het ddydd Sadwrn.
Y timau eraill yn y grŵp yw Rwsia a Slofacia.
Mae'r gystadleuaeth yn dechrau ar 10 Mehefin, ond mae gêm gyntaf Cymru ar 11 Mehefin yn erbyn Slofacia, a hynny yn Bordeaux.
Lloegr fydd y gwrthwynebwyr yn yr ail gêm ar 16 Mehefin yn Lens, cyn i ddynion Chris Coleman herio Rwsia ar 20 Mehefin yn Toulouse.
Dywedodd rheolwr Cymru, Chris Coleman: "Do'n i ddim am gael Lloegr - maen nhw wedi ennill bob gêm yn y rowndiau rhagbrofol felly maen nhw'n dîm gwych, ond fydd hi'n goblyn o achlysur.
"O ran Rwsia a Slofacia - mae'n rhaid i ni gael popeth yn iawn dros y 90 munud ac mae modd eu curo nhw. Dim ots pwy ydych chi'n chwarae, mae'n rhaid i ni fod yn barod."
Bydd ymateb llawn i'r grŵp ar Raglen Dewi Llwyd fore Sul, 13 Rhagfyr ar Radio Cymru gyda chyn-ymosodwr Cymru Iwan Roberts, Ian Gwyn Hughes o Gymdeithas Bêl-droed Cymru a Ceri Brugeilles o Baris.