Rhybuddion llifogydd mewn grym ac oedi i deithwyr
- Cyhoeddwyd

Mae rhybuddion llifogydd mewn grym yng ngogledd a chanolbarth Cymru ddydd Sul, a nifer o ffyrdd ar gau oherwydd llifogydd.
Cafodd dau o bobl eu hachub ar ôl i'w car fynd yn sownd mewn dwr ger y Trallwng ym Mhowys.
Mae gwasanaethau tren hefyd wedi eu heffeithio yn siroedd Conwy, Ceredigion a Phowys.
Dywedodd Trenau Arriva Cymru na fyddai gwasanaeth rhwng Llanrwst a Blaenau Ffestiniog tan ddydd Llun, ac mae oedi mawr rhwng Machynlleth a Phwllheli.
Roedd y Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai hyd at 6cm o law ddisgyn ddydd Sadwrn, ac roedd gwyntoedd o 70mya yng Nghapel Curig.
Mae'r rhybuddion llifogydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn grym ar gyfer Dyffryn Dyfrdwy a mannau ar hyd afon Hafren ym Mhowys.
Am y wybodaeth ddiweddaraf ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2015