Un wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin
- Published
Mae person 51 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin nos Sadwrn.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A40 ger Sanclêr am tua 19:55 ar 12 Rhagfyr.
Roedd Renault Clio du mewn gwrthdrawiad gyda Toyota gwyn yn agos at gylchfan Sanclêr.
Cafodd gyrrwr y Renault ei gludo i Ysbyty Glangwili ond bu farw'n ddiweddarach.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth, ac maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw un welodd y gwrthdriawiad.