'200,000 o swyddi yn dibynnu ar yr Undeb Ewropeaidd'
- Published
Bydd Carwyn Jones yn lansio ymgyrch Llafur yng Nghymru i aros fel rhan o'r Undeb Ewropeaidd ddydd Llun.
Mae disgwyl refferendwm ar aelodaeth y DU yn yr Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd 2017.
Yn yr ymgyrch, bydd y blaid yn canolbwyntio ar y miloedd o swyddi a miliynau o bunnoedd o daliadau ddaw i Gymru drwy fod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd.
Bydd Mr Jones yn cyhoeddi mai cyn-ysgrifennydd Cymru, Peter Hain, fydd yn arwain yr ymgyrch yng Nghymru.
Hefyd, mae disgwyl iddo ddweud fod bron i 200,000 o swyddi yng Nghymru yn dibynnu ar fasnach gyda'r Undeb Ewropeaidd.
'Peryglu swyddi'
Yn ôl pôl piniwn yn ddiweddar mae mwy o bobl Cymru yn gweld budd mewn bod yn rhan o'r UE, ond mae nifer fawr o bobl yn dal heb benderfynu.
Mae David Cameron am newid rhai o reolau'r UE cyn y refferendwm - rhywbryd cynt diwedd 2017.
Yn ôl Mr Jones mae 191,332 o swyddi Cymru yn ddibynnol ar fasnach gyda gwledydd yr UE.
Yn ôl UKIP, sy'n ymgyrchu o blaid gadael yr UE, byddai Cymru yn derbyn mwy o arian gan Lywodraeth Prydain petai Prydain yn gadael, gan y byddai'n wlad fwy llewyrchus.
"Yn rhy aml mae'r sefydliadau yng Nghymru yn dadlau bod economi Cymru yn ddibynnol ar aelodaeth o'r UE," medd y blaid.
"Mae hynny'n embaras.
"Mae'n rhaid gwario arian datblygu gan yr UE mewn ffordd sy'n cael ei benderfynu ym Mrwsel i gyd-fynd â'u targedau, nid mewn ffyrdd sydd o reidrwydd orau i Gymru..."