Hwb £7.5m i wasanaethau newydd-anedig yn y de
- Cyhoeddwyd
Bydd gwasanaethau i fabanod sy'n cael eu geni'n gynnar yn cael eu moderneiddio fel rhan o gynllun werth £7.5m.
Bydd y gwelliannau yn digwydd yn adran newydd-anedig Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, ysbyty fwyaf Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, y byddai'r cynllun yn rhoi'r "gofal orau bosib i fabanod a'u teuluoedd".
Mae disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn yr haf yn 2016.