Arestio dyn wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn yn ei 60au farw mewn gwrthdrawiad ddydd Sul.
Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A48 ym Mhen-y-bont ar Ogwr am tua 13:00.
Roedd Seat melyn wedi bod mewn gwrthdrawiad gyda Citroen glas. Bu farw gyrrwr y Citroen ar safle'r digwyddiad.
Mae gyrrwr y Seat, dyn 21 oed, wedi ei arestio ac mae'n cael ei holi gan yr heddlu.
Mae'r heddlu eisiau siarad gydag unrhyw un welodd y gwrthdrawiad neu oedd yn yr ardal ar y pryd. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101.