Damwain farwol M4: Dyn 45 oed wedi'i arestio

M4 Image copyright Media Wales

Mae dyn 45 oed wedi'i arestio yn dilyn damwain farwol ar yr M4 sydd wedi arwain at giwiau 11 milltir rhwng Casnewydd a Chaerdydd.

Fe wnaeth y gwasanaeth ambiwlans gadarnhau bod dyn 56 oed o Iwerddon wedi marw yn y digwyddiad.

Bu dwy lôn ar gau yn dilyn y gwrthdrawiad ger cyffordd 28 yng ngorllewin Casnewydd am tua 04:10 fore Llun.

Roedd adroddiadau o giwiau nes cyffordd 33 ger Caerdydd, ond mae'r ffordd wedi'i ailagor yn llwyr bellach.

Dywedodd Heddlu Gwent bod dyn o Ferthyr Tudful wedi'i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Roedd dyn arall o Iwerddon, 29 oed, yn teithio gyda'r dyn fu farw, ond nid yw wedi'i anafu.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.