Digwyddiadau 2015
- Cyhoeddwyd
Dyna oedd blwyddyn brysur! Faint ydych chi'n gofio am rai o brif ddigwyddiadau 2015?
Yn ystod y 12 mis diwethaf mae ffotograffwyr Cymru Fyw wedi bod ym mhob twll a chornel o'r wlad i ddod a rhai o'r uchafbwyntiau i chi. Dyma rai ohonyn nhw:
Ffynhonnell y llun, Alan Coles
Golau'r Aurora Borealis dros Bannau Brycheiniog fel yr oedden nhw i'w gweld o bentre Bwlch ar 17 Mawrth
Ffynhonnell y llun, Betsan Evans
Candelas, enillwyr Band Gorau'r Flwyddyn yn noson wobrwyo Selar, yn derbyn eu tlws gan Lefi Gruffudd, Y Lolfa
Ffynhonnell y llun, Iestyn Hughes
"Ni 'di ennill!" Côr Heol y March, Y Bontfaen, yn dathlu yng nghystadleuaeth Côr Cymru yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Ffynhonnell y llun, Llinos Lanini
Nid golygfa o Dr Who, ond dwy fyfyrwraig o Brifysgol Caerdydd yn ceisio cael cipolwg diogel ar y diffyg ar yr haul (eclips) ar 20 Mawrth
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Elin Angharad, merch leol o Fôn, aeth a hi gyda'r 'Lleuad a'r Sêr' yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yng Ngwalchmai
Mae angen gofal wrth symud Cadair Eisteddfod yr Urdd Caerffili. Mae hi bellach yng nghartre'r bardd buddugol, Elis Dafydd, yn Nhrefor
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Pwy yw'r mwyaf direidus, Dona neu'r plantos? Gwyl Arall, Caernarfon
Ffynhonnell y llun, Ceri Llwyd
Troedio'n ofalus yn Eisteddfod Llangollen
Ffynhonnell y llun, Kristina Banholzer
Y bytholwyrdd Geraint Jarman oedd un o brif atyniadau Tafwyl yng Nghastell Caerdydd. Roedd Geraint yn dathlu ei ben-blwydd yn 65 yn 2015
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Gareth F. Williams, enillydd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn 2015. Fe enillodd ei nofel 'Awst yn Anogia' y wobr am Ffuglen Gymraeg y Flwyddyn hefyd yn Seremoni Llyfr y Flwyddyn, Galeri, Caernarfon
Un o ffermwyr ifanc y Sioe Fawr, Llanelwedd
Ffynhonnell y llun, Lleucu Meinir
Un o'r adegau prin 'na yn ystod haf 2015 pan oedd angen sbectol haul! Gŵyl Nôl a Mla'n, Llangrannog
Ffynhonnell y llun, Guto Vaughan
"Yw e'n brathu?" Y plant a'r ci yn mwynhau eu hunain yng Ngŵyl Crug Mawr, Aberteifi
Cafodd y cyflwynydd Alex Jones ei hurddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau
Ffynhonnell y llun, Lucy Roberts
"Ma'r het 'ma shêd yn rhy fawr i fi!" Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Crughywel
Roedd 'na sêl bendith brenhinol i Ŵyl Pride Cymru yng Nghaerdydd
Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Beth yw'r disgrifiad priodol? Coedwig o ferched? Gŵyl Rhif 6, Portmeirion ym mis Medi
Ffynhonnell y llun, Marc John
Y bêl yn y wal - un o ddelweddau mwyaf eiconig Cymru yn 2015
Ffynhonnell y llun, Emyr Young
Charlotte Church yn cadw cwmni Carys Eleri (Parch) ar garped coch noson wobrwyo BAFTA Cymru yn Neuadd Dewi Sant Caerdydd
"Ti moyn dawns'o?" Gŵyl Cerdd Dant, Porthcawl
'Dyn ni bron a gorffen! Cystadleuwyr yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc, Aberystwyth
Ffynhonnell y llun, Huw Evans PA
Diolch am fynd trwy'r lluniau! Ymlaen a ni i 2016! Welwn ni chi yn Bordeaux!