Euro 2016: 'Diogelwch cefnogwyr sydd bwysicaf'

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, AP

Diogelwch cefnogwyr Cymru yn rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc yw'r "peth pwysicaf," yn ôl pennaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywedodd y prif weithredwr, Jonathan Ford, eu bod yn ystyried ffactorau diogelwch "yn ddifrifol iawn".

Mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr deithio i'r bencampwriaeth yn Ffrainc.

Bydd y tîm yn wynebu Slofacia yn Bordeaux, Lloegr yn Lens a Rwsia yn Toulouse yn y rownd gyntaf.

Dywedodd Mr Ford bod diogelwch "bwysig iawn, iawn" i UEFA, sy'n rheoli pêl-droed ar lefel Ewropeaidd.

"Mi oedd 'na sôn yn y seremoni, wrth gwrs, am yr amgylchiadau trasig," meddai, gan gyfeirio at yr ymosodiadau terfysgol ym Mharis fis Tachwedd.

"Mae rhaid i ni ganolbwyntio nawr ar y timau, ond mi fydd nifer o bobl yn gweithio gyda ni i sicrhau ein diogelwch."

Gemau cyfeillgar

Ychwanegodd Mr Ford ei fod yn gobeithio y byddai gemau cyfeillgar yng Nghymru yn rhoi hwb i'r chwaraewyr cyn dechrau'r bencampwriaeth.

Ers 2011 mae'r rhan fwyaf o gemau cartref Cymru wedi cael eu chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Ond fe gafodd y gêm ddiwethaf rhwng Cymru a Lloegr ym mis Mawrth 2011 ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm â thorf o 69,000.

Dywedodd Mr Ford: "Wrth gwrs, mae rhai cymhlethdodau. Mae cyngherddau'n cael eu cynnal ar y meysydd hyn yn yr haf.

"Mae rhaid i ni edrych ar hyn. Mae rhaid i ni drefnu cyn gynted â phosib."