Crabb: 'Llywodraeth well i Gymru'
- Cyhoeddwyd

All Llywodraeth Cymru ddim "osgoi'r cyfrifoldeb" o gasglu rhan o'i chyllid drwy drethi, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb.
Dywedodd y byddai datganoli pwerau dros dreth incwm yn arwain at "lywodraeth well i Gymru."
Mae trafodaethau ynglŷn â datganoli rhai grymoedd dros y dreth incwm eisoes wedi dechrau.
Fe gyhoeddodd y Canghellor George Osborne fis diwethaf na fyddai rhaid cynnal refferendwm cyn datganoli'r pwerau.
"Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ni barchu hawl y Cynulliad i fod yn hyblyg o ran pryd fo datganoli'n dod i rym," meddai.
"Ond yr hyn nad ydyn nhw'n gallu'i wneud ydi osgoi'r cyfrifoldeb.
"Mae'n bwysig ei fod yn datblygu'n gorff sydd nid yn unig yn gwario llwyth o arian y trethdalwyr, ond sydd hefyd â chyfrifoldeb i gasglu arian, ac felly'n dod yn llywodraeth fwy atebol a chyfrifol yn ariannol."
Ail-ystyried mesur
Fe ychwanegodd Mr Crabb y byddai'n "ail-saernïo" Mesur drafft Cymru ar gamau nesaf datganoli yn y flwyddyn newydd.
Mae'r mesur wedi cael ei feirniadu gan Blaid Cymru, sy'n honni y byddai'r mesur yn symud rhai pwerau'n ôl o'r Cynulliad i San Steffan.
Dywedodd Mr Crabb fod trafodaethau am y mesur yn parhau yn y Swyddfa Gymreig.
"Mi fuaswn i'n Ysgrifennydd Gwladol dwl iawn petawn i'n anwybyddu'r feirniadaeth," meddai.
"Felly fy swydd i nawr yw eistedd lawr a gweld sut allwn ni ail-saernïo'r mesur fel bod cydbwysedd cywir rhwng rhoi pwerau ychwanegol i Gaerdydd a gwneud y system yn gliriach, sy'n hollol hanfodol i ddatganoli yng Nghymru."
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
"Yr unig beth 'dy ni'n gobeithio ei osgoi ydi nifer y maglau ar drethi a phwerau - sydd wedi eu gosod mewn modd go drwsgwl gan Lywodraeth y DU."
Ychwanegodd y llefarydd fod "Llywodraeth y DU yn osgoi'r cyfrifoldeb o ddatganoli Toll Teithwyr Awyr. Os ydyn nhw mor frwdfrydig am gyfrifoldeb, yna pam nad ydyn nhw'n ein trin ni yn yr un modd â'r Alban, ac yn gadael i ni ddatblygu ein maes awyr?