Cyngor o blaid stad o dai yn Yr Hendy ger Llanelli
Teleri Glyn Jones
Gohebydd BBC Cymru
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Arall
Y safle yn Yr Hendy ger Llanelli
Mae cynghorwyr Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu rhoi caniatâd cynllunio i stad o dai ym mhentre Yr Hendy ger Llanelli.
Y bleidlais oedd 15-1 ac roedd un cynghorydd yn ymatal.
Roedd gwrthwynebwyr wedi mynegi pryder am broblemau, gan gynnwys mwy o draffig, ac wedi cwyno bod y cwmni wedi dechrau gwaith paratoi cyn caniatâd ynllunio.
Bwriad Persimmon yw adeiladu 91 o dai ar y safle ger Heol Llwynbedw.
Ymddiheurodd y cwmni yng nghyfarfod y pwyllgor cynllunio am eu gwaith "goreiddgar" ar y safle.
Roedd swyddogion cynllunio'r cyngor wedi argymell cymeradwyo'r cynllun.