Pallial: Dyn yn ddieuog o ymosod a chreulondeb ar blant

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 75 oed o ardal Wrecsam wedi ei gael yn ddieuog o wyth cyhuddiad o ymosod a chreulondeb ar blant tra'n gweithio mewn cartre' gofal yng ngogledd Cymru.

Roedd Peter Steen wedi gwadu'r cyhuddiadau. Mae'r rheithgor yn dal i ystyried tri chyhuddiad arall yn ei erbyn.

Cafodd Mr Steen ei arestio fel rhan o ymgyrch Pallial gan yr Asiantaeth Droseddu Cenedlaethol, sy'n edrych ar honiadau o gam-drin hanesyddol mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru.

Yn ystod yr achos llys y goron, sydd wedi para tair wythnos ac wedi'i gynnal yng Nghaer, clywodd y rheithgor gyfres o honiadau yn dyddio'n ôl i gyfnod rhwng 1978 ac 1982, pan oedd Mr Steen yn gweithio fel gofalwr yng nghartre' Bryn Alyn, Wrecsam.

Roedd naw o bobl wedi rhoi tystiolaeth, gan gynnwys wyth o ddynion ac un ddynes, oedd rhwng 11 ac 16 mlwydd oed ar y pryd.

Ymhlith yr honiadau, roedd Mr Steen wedi'i gyhuddo o bwnio a chicio plant, ac o'u gorfodi i sgrwbio iard y cartre' fel cosb.

Gydol yr achos, mae Mr Steen wedi gwadu pob un o'r 11 cyhuddiad yn ei erbyn.

Bydd y rheithgor yn ail-ymgynnull ddydd Mawrth i ystyried eu dyfarniad yn achos y tri cyhuddiad arall.