Ail angladd ffrwydrad gwaith dur Celsa
- Cyhoeddwyd

Bu farw Mark Sim a Peter O'Brien yn y ffrwydrad fis diwethaf
Bydd angladd un o ddau ddyn fu farw mewn ffrwydrad mewn gwaith dur yng Nghaerdydd yn cael ei gynnal ddydd Mawrth.
Bydd gwasanaeth Mark Sim, 41 oed o Gil-y-coed, Sir Fynwy, yn cael ei gynnal yn Amlosgfa Forest of Dean yng Nghaerloyw.
Bu farw yn y ffrwydrad yng ngwaith dur Celsa fis diwethaf gyda Peter O'Brien, 51 oed o Lanisien, Caerdydd.
Fe wnaeth dros 1,000 o bobl fynychu angladd Mr O'Brien ar 10 Rhagfyr.