Gwrthdrawiad M4: Cyhoeddi enw dyn fu farw
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr M4 ger Casnewydd fore Llun.
Bu farw Andre Murphy, oedd yn cael ei adnabod fel Nick, yn y gwrthdrawiad am 04:10 ger cyffordd 28.
Roedd Mr Murphy, 56 oed, yn dod o Sir Wexford yn Iwerddon.
Roedd dyn arall o Iwerddon, 29 oed, yn teithio gyda Mr Murphy, ond ni chafodd ei anafu.
Mae dyn 45 oed o Ferthyr Tudful wedi ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.