Pallial: Dyn o Wrecsam yn ddieuog o gyhuddiadau

  • Cyhoeddwyd
llys
Disgrifiad o’r llun,
Llys y Goron y Wyddgrug

Mae cyn godwr pwysau o Wrecsam wedi ei gael yn ddieuog o ymosod ar blentyn tra'n gweithio mewn cartref gofal yn y gogledd.

Roedd Peter Steen, 75, yn gweithio fel gofalwr ym Mryn Alyn ac roedd y cyhuddiadau yn gysylltiedig â'r cyfnod rhwng 1978 a 1982.

Cafodd rheithgor yn Llys y Goron y Wyddgrug Mr Steen yn ddieuog ddydd Llun o bedwar cyhuddiad o ymosod a phedwar o greulondeb.

Ddydd Mawrth, methodd y rheithgor â dod i benderfyniad ar dri cyhuddiad arall.

Cafodd Mr Steen ei arestio fel rhan o ymgyrch Pallial gan yr Asiantaeth Droseddu Cenedlaethol, sy'n edrych ar honiadau o gam-drin hanesyddol mewn cartrefi plant yn y gogledd.

Fe wnaeth y Barnwr Niclas Parry rhyddhau'r rheithgor gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dweud na fyddai yna aildreial.

"O dan yr amgylchiadau, mae hynny'n gwneud perffaith synnwyr ac mae'n deg," meddai'r Barnwr Niclas Parry.

Roedd Peter Steen wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiadau.