Gwerth £5m o heroin: Carcharu gang
- Cyhoeddwyd

Mae 10 aelod o gang heroin wedi cael eu carcharu am gyfanswm o dros 100 mlynedd.
Cafodd y 10 eu harestio wedi i'r heddlu ddod o hyd i 40 cilogram o'r cyffur gwerth £5m yn 2013 a 2014.
Yn Llys y Goron Caerdydd roedd pedwar yn euog o gynllwynio i gyflenwi heroin.
Plediodd pump arall yn euog i'r un cyhuddiad a phlediodd un yn euog i wyngalchu arian.
Clywodd y llys mai Imtiaz Ali o Gasnewydd a Mohammed Sajjad o Gaerdydd oedd "penaethiaid" y gang. Cafodd y ddau eu carcharu am 17 mlynedd.
Wrth ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Stephen Hopkins QC fod y criw yn delio â'r cyffur dosbarth A ar raddfa "ddiwydiannol."
Dedfrydau
Roedd y canlynol yn euog o gynllwynio i gyflenwi heroin:
- Shazia Ahmad, 38 oed o Gasnewydd, 10 mlynedd o garchar;
- Wasim Ali, 30 oed o Gasnewydd, wyth mlynedd o garchar;
- Zawed Malik, 41 oed o Duckinfield, Manceinion, wyth mlynedd o garchar;
- Umar Arif, 30 oed o Gaerdydd, 10 mlynedd a phedwar mis o garchar.
Plediodd y canlynol yn euog i gynllwynio i gyflenwi heroin:
- Mohammed Sajjad, 38 oed o Gaerdydd, 17 mlynedd o garchar;
- Imtiaz Ali, 35 oed o Gasnewydd, 17 mlynedd o garchar;
- Paul Anthony Thomas, 42 oed o Gaerdydd, naw mlynedd o garchar;
- Waseem Mohammed Riaz, 28 oed o Gasnewydd, saith mlynedd o garchar;
- Mohammed Aftaab Boota, 27 oed o Gasnewydd, saith mlynedd o garchar.
Plediodd y canlynol yn euog i wyngalchu arian:
- Tracy Ford, 41 oed o Gaerdydd, tair blynedd a phedwar mis o garchar.