£3m i atal llifogydd yn Llanelwy

  • Cyhoeddwyd
LlanelwyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Bu llifogydd difrifol yn Llanelwy yn 2012

Mae Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, wedi cyhoeddi y bydd £3m yn mynd ar barhau â chynllun atal llifogydd yn Llanelwy yn ystod 2016/17.

Fe ddioddefodd y ddinas yn ddrwg o lifogydd yn 2012, pan lifodd dŵr i 400 o dai wedi i afon Elwy orlifo'i glannau. Bu farw un bensiynwraig bryd hynny.

Ers hynny, mae ymdrechion wedi eu gwneud i atal llifogydd, ac mae Llywodraeth Cymru'n dweud y bydd 414 eiddo yn elwa o'r cynllun diweddaraf. Bydd yr arian yn cael ei wario ar welliannau i hen bont Llanelwy, gwelliannau i lwybrau troed a beiciau, gwella bioamrywiaeth ac adfer nant fach.

Disgrifiad o’r llun,
Llifodd dŵr i 400 o dai yn Llanelwy yn 2012

Bygythiad llifogydd yn parhau

Dywedodd Mr Sargeant: "Ffrwyno effeithiau llifogydd a chadw'n cymunedau'n ddiogel yw un o brif flaenoriaethau'r Llywodraeth hon. Ond mae tywydd mawr yn parhau i roi'n hamddiffynfeydd rhag llifogydd ar brawf.

"Yn Llanelwy, ers llifogydd 2012, rydym wedi bod yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, sef yr awdurdod rheoli perygl llifogydd ar Afon Elwy, i benderfynu pa fesurau sydd eu hangen i leihau'r perygl o lifogydd.

"Bydd y cynllun yn gwneud y byd o wahaniaeth i fywydau pobl Llanelwy sy'n wynebu'r bygythiad o weld eu cartrefi a'u busnesau'n mynd dan ddŵr bob tro y daw tywydd mawr.

"Mae arian eisoes wedi'i neilltuo i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer eleni, hynny ar ben y £3 miliwn newydd hwn ar gyfer blwyddyn nesaf. Rwyf wedi rhoi gorchymyn i Cyfoeth Naturiol Cymru ddechrau ar y gwaith ar unwaith."