Clybiau rygbi'n cael ailwerthu tocynnau Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae gan glybiau rygbi'r hawl bellach i ailwerthu rhai o'u tocynnau i gemau Cymru am bris uwch.
Bydd ganddyn nhw'r hawl i werthu cyfran o'u tocynnau ymlaen, ac yn cael cadw'r elw, trwy gwmni ailwerthu Ticketmaster, sef Seatwave.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru ei fod wedi "ailystyried ei safbwynt" ar y farchnad eilaidd.
Bydd tocynnau sy'n cael eu hailwerthu yn cael eu gwirio gan yr undeb, ac yn cael eu gwerthu i'r prynwr newydd drwy ei swyddfa docynnau.
Bydd yr undeb a Seatwave hefyd yn rhoi canllawiau ar bris ailwerthu'r tocynnau, yn seiliedig ar gyfartaledd prisiau gwerthu.
Dim ond i gemau cartre Cymru yn Stadiwm y Mileniwm y mae'r rheolau newydd yn berthnasol.
Dywedodd Craig Maxwell, pennaeth gwerthiant a marchnata Undeb Rygbi Cymru: "Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penderfynu gwrando ar alwadau cefnogwyr a darparu gwasanaeth sydd yn amlwg yn cael ei ddefnyddio'n barod, ond gyda'r sicrwydd a'r diogelwch y gall yr undeb a neb arall ei gynnig."