Pryder am 'ddirywiad' diwydiannau Cymru

  • Cyhoeddwyd
Diwydiant dur

Mae Plaid Cymru'n rhybuddio y gallai'r argyfwng o fewn y diwydiant dur fod yn arwydd o broblemau dyfnach o fewn diwydiannau eraill yng Nghymru.

Rhybuddiodd llefarydd economaidd y blaid, Rhun ap Iorwerth, y gallai'r hyn sy'n digwydd o fewn y diwydiant dur fod hefyd yn digwydd mewn diwydiannau fel y diwydiant metel, cemegol a choed.

Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth Prydain i fynd i'r afael ag effaith prisiau ynni uchel ar ddiwydiant.

Mae Llywodraeth Prydain wedi cael cais i ymateb i'r sylwadau.

'Dirywiad'

Dywed Plaid Cymru fod ffigyrau Gwerth Ychwanegol Gros ar gyfer yr hyn sy'n cael ei alw'n ddiwydiannau sylfaenol Cymru yn dangos dirywiad o 39% dros y pum mlynedd hyd at 2013.

Anogodd Mr ap Iorwerth Lywodraeth Cymru i gymryd camau er mwyn cynorthwyo diwydiannau ddelio a chostau uchel ynni.

"Mae ffigyrau'n dangos nad dur yw'r unig fygythiad i'r economi, ond amrywiaeth o ddiwydiannau sy'n sylfaen i'n heconomi."

"Mae hyn yn cynnwys y diwydiant cemegol, metelau eraill a chynnyrch coed. Mae yna ddirywiad sylweddol wedi bod o fewn diwydiannau sylfaenol Cymru."

Dywedodd hefyd y dylai llywodraethau Prydain weithio gyda'r Undeb Ewropeaidd er mwyn amddiffyn diwydiannau Prydain yn well.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Rhun ap Iorwerth yn rhybuddio fod holl ddiwydiannau sylfaenol Cymru'n dioddef.

'Amddiffyn y diwydiant dur'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Does neb wedi amddiffyn y diwydiant dur yn fwy na Llywodraeth Cymru.

"Dros nifer o flynyddoedd, rydym wedi mynegi'n pryderon wrth Lywodraeth Prydain am yr effaith y mae prisiau ynni uchel ym Mhrydain yn ei gael ar allu ein diwydiannau i gystadlu, ac rydym yn galw eto arnyn nhw i fynd i'r afael a'r broblem fawr hon.

"Mae'r gweinidog economi wedi sefydlu tasglu i gasglu enghreifftiau o arfer da ac i adnabod enghreifftiau pan fo gwledydd eraill o fewn yr UE wedi cefnogi eu diwydiannau dur."