Rhybudd am berygl triniaeth stêm i blant

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cyngor newydd i rieni i beidio stemio

Mae canllawiau wedi eu rhoi i feddygon teulu a nyrsys yng Nghymru yn eu cynghori i beidio argymell triniaeth stemio i blant wrth drin annwyd a pheswch.

Maen nhw wedi eu llunio ar ôl i lawfeddygon yn y Ganolfan Llosgiadau a Phlastig godi pryderon bod plant mor ifanc ag wyth mis oed yn dod i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl arllwys dŵr twym dros eu hunain.

Mae aelodau'r tîm yn Ysbyty Treforys wedi ysgrifennu erthygl ar gyfer y British Journal of General Practitioners ac wedi cyflwyno eu canfyddiadau i Brif Swyddog Meddygol Cymru.

Yn y pum mlynedd ddiwethaf mae 17 o blant wedi eu trin yn y ganolfan ar ôl cael anafiadau.

Cafodd un plentyn losgiadau mor ddifrifol fel bod rhaid defnyddio impyn croen (skin graft) tra y cafodd blentyn arall sepsis a thriniaeth mewn uned gofal dwys.

'Dim tystiolaeth'

Mae'r gwaith ymchwil yn awgrymu bod meddygon teulu a nyrsys yn "aml yn argymell triniaeth stemio ar gyfer rhieni" pan "nad oes yna dystiolaeth i awgrymu bod yna unrhyw fudd go iawn."

Dywedodd Dai Nguyen, pediatrydd plastig ymgynghorol yn y ganolfan: "Mi oedd rhieni yno ac yn goruchwylio'r broses yn yr holl achosion wnaethon ni edrych arnyn nhw. Ond mae pethau yn gallu digwydd mor gyflym. Allwch chi ddim dal bowlen o ddŵr poeth unwaith mae hi yn dechrau troi drosodd."

Yn ôl Sarah Hemington-Gorse, llawfeddyg plastig, mae modd osgoi'r anafiadau.

"Mae rhywbeth sydd yn cael ei argymell gan weithwyr iechyd neu o achos coel gwrach a theidiau a neiniau yn achosi anafiadau i blant sydd gydag annwyd. Ac mi allwn ni atal hyn drwy roi stop ar y driniaeth."

'Cannoedd o flynyddoedd'

Mae Coleg Brenhinol Meddygon Teulu yn dweud bod y canllawiau newydd yn cael eu gweithredu ond y bydd hi'n cymryd amser i'r neges gael ei chlywed.

Dywedodd Dr Rebecca Payne, cadeirydd y coleg yng Nghymru, fod triniaeth stemio wedi cael ei defnyddio am "gannoedd o flynyddoedd" ac yn cael ei chyfri tan yn ddiweddar fel triniaeth effeithiol ar gyfer crŵp.

Mae gwaith ymchwil y tîm wedi ei gyflwyno i Gymdeithas Brydeinig Llawfeddygon Cosmetig yng Ngwlad Belg a Chlwb Llosgiadau Ewropeaidd mewn cyfarfod yn Lyon, Ffrainc.

Cafodd Finley Denley-Ansen ei anfon i Ysbyty Treforys ym mis Gorffennaf ar ôl arllwys bowlen o ddŵr poeth dros ei hun. Cafodd 15-20% o losgiadau ar ei abdomen, cesail ei forddwyd a'i goesau.

"Ro'dd e'n brifo. Pan 'nes i godi o'r gadair o'n i mewn sioc. O'n i ddim yn gwybod beth i wneud. Fe ddywedodd Dad wrtha i i fynd mewn i'r gawod ac wedyn o'n nhw jyst yn rhoi dŵr o'r drosto fi."

Ffynhonnell y llun, Teulu

Mi fuodd yn rhaid iddo gael llawdriniaethau ac aros mewn uned gofal dwys cyn cael ei symud i ward blant. Ond ar ôl dod adref cafodd sepsis a'i ruthro eto i'r uned gofal dwys.

Erbyn hyn mae Finley wedi gwella yn llwyr a dim ond craith fach sydd ar ôl.

"Fy nghyngor i i rieni yw peidio byth â defnyddio triniaeth stemio," meddai ei fam, Rachel. "Fydden i byth yn rhoi dŵr poeth yn agos i blentyn eto nac yn argymell i unrhyw un arall wneud chwaith."