'Siom' Corn

  • Cyhoeddwyd

I'r rhan fwya' o bobl, mae'r Nadolig yn gyfnod i ddathlu ac i fwynhau yng nghwmni teulu a ffrindiau, ond i eraill, nid Nadolig Llawen mohono!

Mae Gary Slaymaker a Daniel Glyn ymhlith digrifwyr amlycaf yr iaith Gymraeg, ond mae'n ymddangos nad y'n nhw yn gweld llawer o ddoniolwch yn y 'Dolig!

Beth felly sy'n achosi 'Siom' Corn iddyn nhw?

Gary Slaymaker:

Slaymaker - fy nghyfenw i - wy'n credu bod e'n saff i weud fod pawb a'i frawd a'i gi bach wedi dod lan ata'i rhywbryd adeg yma o'r flwyddyn, a gweud y linell hilariws... "Slaymaker ia? Wyt ti'n gweithio i Siôn Corn, 'de?".

A beth sy'n hala colled arna'i yw'r ffaith bod y bobol ma'n wirioneddol meddwl ma' nhw odd y cynta i ddod lan â'r 'jôc' 'ma. 'Wy 'di bod yn clywed rhyw fersiwn neu'i gilydd o'r linell yma ers o'n i'n 6 mlwydd oed, so rhowch bach o ddychymyg mewn iddi, y tro nesa' chi'n ystyried cymharu'n enw i gyda adeg yr Ŵyl.

Hefyd, 'wy byth yn gallu ordro tacsi adeg hyn o'r flwyddyn gyda nghyfenw rhyfedd i. Y flwyddyn gynta' o'n i'n byw yng Nghaerdydd, o'n i wedi bwcio tacsi ar gyfer swper 'Dolig staff llyfrgelloedd BBC, a nath hi ddim troi lan ar amser.

Deg munud yn ddiweddarch, o'n i ar y ffôn, yn diawlio'r cwmni; a'r unig beth gês i fel ymateb/ymddiheuriad odd, "Sorry mate, we thought you was taking the p**s, with that surname". Ers hynny, 'wy'n cerdded i bobman adeg Nadolig.

Disgrifiad o’r llun,
Ai Gary wnaeth y sled hardd hon i Sion Corn?

Siopa - Pan mae'n dod i siopa Nadolig, 'wy'n holi'r teulu'n syth beth ma nhw ishe, a wedyn off i'r dre' i nôl yr anrhegion, a syth allan. Licen i feddwl mod i'n shopping ninja ar bob adeg, ond yn bendant adeg Nadolig. A ma' hwnna i gyd oherwydd siopwyr eraill.

S'dim ots os a i fewn i'r dre'n gynnar yn y bore, neu'r peth ola' gyda'r hwyr, ma' pob siop wastod yn jam packed gyda phobl sydd jyst yn edrych ar bethe, neu sefyll yn y ffordd, neu taro mewn i chi gyda'i ymbarel/troli siopa/pram.

'Wy ddim yn ffan o bobol ar yr adegau gorau, ond ma'r Nadolig yn neud i fi deimlo hyd yn oed llai goddefgar. Efallai se'n i'n cynnal 'Black Friday' yn fwy amal, bydde theori Darwin o natural selection yn dod i'r amlwg, a fe alle ni leihau ar niferoedd y boblogaeth.

Rhai caneuon pop 'Dolig - Ma na lot o gwyno wedi bod yn barod am nifer o raglenni teledu fydd yn cael eu hail-ddarlledu Nadolig eleni, ond yn bersonol, rwy'n gweld caneuon y Nadolig yn fwy o broblem.

Hynny yw, s'da fi ddim byd yn erbyn y carolau, a ma 'Fairytale of New York' gan The Pogues yn wych, ond jyst yr un tiwn gron o ganeuon pop sy'n llanw siopau, a gorsafoedd radio masnachol sy'n hala fi'n benwan.

Wy'm ishe clywed Mariah Carey'n udo'i ffordd drwy 'All I Want For Xmas Is You' neu 'Jingle Bell Rock', neu 'Rockin' Around the Christmas Tree'. I fod yn onest, i fenthyg o deitl y gân, 'All I Want for Christmas is Bloody Earplugs'.

Daniel Glyn:

Does dim byd gwaeth na derbyn gêm newydd gan Siôn Corn ar gyfer y PS3, ond sylweddoli bo chi ffili chwarae fe tan 3 y bore wedyn achos bod y plant 'di cael gêm ar gyfer y PS3 hefyd. Ewch i'r gwely myn diain i!

Rhwbeth arall sy'n fy nghythruddo adeg y Nadolig yw'r partïon... yn benodol, partis 'Dolig gwaith! Gan fy mod i'n freelancer, dwi'n cael parti ar ben fy hun, insultio fy hun, ac yna'n trio mynd off gyda fy hun. Ychydig yn embarrassing yn y bore...

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,
"Lwcus nad ydi'r hen 'Scrooge' Daniel Glyn yma i sbwylio'n parti ni!"

Ac yna mae'r sbrowts... pob blwyddyn dwi'n trio edrych am ffordd ddiddorol ac egsotig o baratoi'r llysiau 'ma, sy'n cymryd ache, yn hytrach na just cyfaddef mai sbrowts yw genital warts y diafol!

___________________________________________________________

Dyna i chi ddwy farn grintachlyd iawn yn fanna.

Yn eironig iawn, pobl fel Gary a Dan sy'n cwyno am y 'Dolig sy'n gwneud Nadolig Hywel Gwynfryn yn un llai dedwydd!

Hywel Gwynfryn:

Mae'n rhaid fy mod i'n greadur sentimental, ond 'does 'na ddim byd yn gysylltiedig â'r Nadolig sy'n fy nghythruddo fi, ar wahân i agwedd sinigaidd, gwenwynig, unigolion Scroogiadd sy'n cael eu cythruddo gan bob peth sy'n gysylltiedig â'r Nadolig.

Tydw i erioed, ers dyddiau fy mhlentyndod, wedi cael fy nghythruddo gan unrhyw beth yn gysylltiedig â'r Nadolig. Fe ges i actio yn nrama'r geni, fe ges i anrhegion gwych pob Nadolig - beic, sgarff a sgidiau ffwtbol, heb anghofio'r 'Eagle Annual' wrth gwrs.

Fe ges i sawl pishyn tair yn fy mhwdin Nadolig yn nhŷ Nain pan o'n i'n blentyn. Fe fydd Siôn Corn yn galw unwaith eto yn ein tŷ ni eleni efo anrheg i bawb.

Felly i'r rhai sy'n winjo am y Nadolig, yn cwyno am y sbrowts (neu sgewyll brwsel, fel basa ni ddim yn ei ddeud yn Llangefni) neu'n cael eu cythruddo gan fateroldeb yr Ŵyl, dwi'n gobeithio y down nhw o hyd i giblets eu twrci, yn dal yn y pecyn plastig ym mol yr aderyn ar ôl iddo fo gael ei goginio, ac y bydda nhw'n torri un o'u dannedd blaen ar y siocled caled cynta' y byddan nhw yn ei frathu.

I'r gweddill ohonon ni - Nadolig Llawen iawn a iechyd i fwynhau blwyddyn newydd arall pan ddaw hi!

Disgrifiad o’r llun,
"Peidiwch â chwyno am y 'Dolig neu ddo i ddim i'ch gweld chi ar y 24ain"