Caerdydd 3-2 Brentford
- Cyhoeddwyd

Fe sgoriodd Kenwyne Jones ei ail gôl o a thrydedd gôl Caerdydd yn yr eiliadau olaf i gipio tri phwynt i Gaerdydd yn erbyn Brentford.
Roedd yn ddiweddglo hynod o ddramatig ar ôl iddi ymddangos fod tîm Russell Slade yn mynd i orfod bodloni ar gêm gyfartal 2-2 ar ôl bod ar y blaen o 2-0 am y trydydd tro'n olynol mewn gêm gartref.
Sicrhaodd yr Adar Gleision y fantais o ddwy gôl ar ôl rheoli'r hanner cyntaf. Trawodd Anthony Pilkington y bar gyda pheniad i'r tîm cartref ar ôl 13 munud a sgoriodd Tony Watt ar ôl 19 o funudau gydag ergyd yn y cwrt chwech.
Watt - sydd ar fenthyg o Charlton - greodd yr ail gôl gyda phas i Jones yn y cwrt cosbi ar ôl 34 munud.
Wnaeth Brentford ddim gorfodi yr un arbediad gan golwr y tîm cartref, David Marshall, yn ystod awr gyntaf y gêm. Ond hanner ffordd drwy'r ail hanner, fe beniodd Jake Bidwell i'r rhwyd ar ôl i amddiffyn Caerdydd fethu clirio'r bêl o gic gornel.
Roedd yr amddiffyn ar fai eto am ail gôl yr ymwelwyr gan John Swift ar ôl 86 munud, ac yn syth ar ôl y gôl, dechreuodd nifer o gefnogwyr yr Adar Gleision fŵio. Roedden nhw'n anhapus ar ôl i Brentford daro nôl yn union fel y gwnaeth Sheffield Wednesday ddydd Sadwrn diwethaf a Burnley fis diwethaf.
Daeth Jones i'r adwy gydag ergyd i'r rhwyd o groesiad Fabio o flaen y dorf leiaf erioed i wylio gêm gynghrair yn Stadiwm Dinas Caerdydd - 12,729.
Mae Caerdydd dal yn seithfed yn nhabl y Bencampwriaeth gydag un pwynt yn llai nag Ipswich sydd yn y safle isaf ar gyfer y gemau ail gyfle.
Bydd gêm nesaf carfan Russell Slade oddi cartref nos Wener yn Birmingham, sy'n wythfed.