Enwi arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r Blaid Werdd yng Nghymru wedi cyhoeddi enw ei harweinydd newydd wrth agor swyddfa ymgyrchu yng Nghaerdydd.
Bydd Alice Hooker-Stroud, sydd yn sefyll fel ymgeisydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru yn etholiadau'r Cynulliad flwyddyn nesaf, yn olynu Pippa Bartolotti.
"Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'r Blaid Werdd yng Nghymru, rydym yn mynd i mewn i etholiadau'r Cynulliad fel plaid benderfynol ac egniol, fe allwn ac fe fyddwn yn ennill seddau", meddai Ms Hooker-Stroud.
'Y Blaid Werdd â'r atebion'
Bydd Hannah Pudner yn olynu Anthony Slaughter fel dirprwy arweinydd y blaid.
"Mae gan y Blaid Werdd yng Nghymru'r atebion i lawer o'r problemau yr ydym yn eu hwynebu yn ein cymunedau", meddai Ms Hooker-Stroud, sydd yn ymgyrchydd ac yn gynorthwy-ydd digwyddiadau o Fachynlleth, Powys.
"Atebion sydd nid yn unig yn ateb problemau cymdeithasol, ond problemau amgylcheddol, ac atebion nid yn unig i broblemau lleol, ond rhai byd eang hefyd".
Dywedodd Pippa Bartolotti, sy'n rhoi gorau i'r swydd ar ôl pedair blynedd wrth y llyw: "Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae'r Blaid Werdd Gymreig wedi mynd o nerth i nerth, wrth i ni adeiladu momentwm ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai, ac fe fydd yn parhau i wneud hynny.
"Mae pleidleiswyr yn barod i wrando ar bobl yn siarad gydag atebion gwirioneddol a dyna'r hyn y mae'r Blaid Werdd Gymreig yn ei gynnig.
"Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag Alice dros y misoedd i ddod a'i chefnogi yn ystod ei harweinyddiaeth."
'Gwireddu potensial'
Bydd swyddfa newydd y blaid yn cael ei rhedeg gan reolwr yr ymgyrch Dan Boyle, cyn aelod seneddol i'r Blaid Werdd yn Iwerddon.
Dywedodd ei fod yn "gyfnod cofiadwy" i'r blaid ac roedd ganddo "bob hyder" y byddai aelod Cynulliad cyntaf y blaid yn cael ei ethol ym mis Mai.
"Mae ganddo ni griw gwych o ymgeiswyr, sylfaen gref o gefnogwyr brwd, a'r isadeiledd i wireddu ein potensial", meddai.